|
Y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol |
Y Panel Cynghori ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru |
Diben
|
Annog trefniadau gweithio mewn partneriaeth, cyfathrebu rhwng rhanddeiliaid a chamau gweithredu cydgysylltiedig ym mhob rhan o sector yr amgylchedd hanesyddol.
|
Rhoi cyngor arbenigol annibynnol i Weinidogion Cymru ar faterion sy'n ymwneud â llunio, datblygu a gweithredu polisïau a strategaethau sy'n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.
Bydd yn gweithredu fel grŵp o arbenigwyr annibynnol er mwyn llywio sail dystiolaeth gadarn a rhoi cyngor y gellir seilio penderfyniadau arno. |
Aelodaeth
|
Mae'r aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr sefydliadau, yn hytrach nag unigolion sy'n gweithredu ar sail eu harbenigedd.
Mae 20 o Aelodau yn rhan o'r grŵp ar hyn o bryd.
Mae pob sefydliad, cymdeithas neu grŵp o sefydliadau sy'n cymryd rhan yn anfon uwch gynrychiolydd enwebedig. |
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys unigolion yn hytrach na chynrychiolwyr sefydliadau.
Ni ddylai'r panel gynnwys mwy na 15 o aelodau.
Caiff unigolion eu penodi i'r panel yn seiliedig ar eu sgiliau a'u harbenigedd. |
Y broses benodi
|
Nid oes proses benodi ffurfiol.
Caiff unigolion eu henwebu gan eu sefydliadau. Yn aml, bydd presenoldeb ar ffurf cylchdro rhwng gwahanol bobl o fewn sefydliad neu rhwng sefydliadau sy'n rhan o gymdeithas neu grŵp. |
Bydd proses benodi ffurfiol.
Caiff aelodau eu penodi drwy drefniadau hysbysebu agored a chystadleuaeth. |
Rhaglen waith a systemau adrodd
|
Caiff y rhaglen waith ei datblygu gan Cadw drwy ymgynghori ag aelodau'r grŵp.
Fel arfer, mae unigolyn sy'n gyfrifol ar y pryd am yr amgylchedd hanesyddol, sef un o Weinidogion Cymru, yn mynd i o leiaf ran o ddau gyfarfod bob blwyddyn er mwyn gwrando'n uniongyrchol ar safbwyntiau aelodau a chymryd rhan yn y trafodaethau.
Caiff cofnodion cyfarfodydd eu dosbarthu a'u rhyddhau ar
gais.
|
Caiff y rhaglen waith ei datblygu gan y panel i'w hystyried gan Weinidogion Cymru.
Bydd y panel yn datblygu rhaglen waith tair blynedd yn nodi'r materion y mae'n bwriadu rhoi cyngor arnynt i Weinidogion Cymru. Caiff y rhaglen waith ei hadolygu'n rheolaidd yn ystod y cyfnod tair blynedd hwn.
Disgwylir y bydd y panel yn cyflwyno adroddiad ffurfiol i Weinidog Cymru ar y ffordd y cyflwynwyd y rhaglen waith ar gyfer pob cyfnod o dair blynedd, yn ogystal â darparu adroddiadau blynyddol ar gynnydd.
Bydd yr adroddiadau hyn ar gael i'r cyhoedd. |
Cydnabyddiaeth
|
Dim cydnabyddiaeth. |
Cynigir y caiff aelodau'r panel eu penodi am uchafswm o 10 diwrnod y flwyddyn, ac y byddant yn cael £145 y dydd. Caiff y cadeirydd ei benodi am 15 diwrnod ar gyfradd o £190 y dydd. |
Cyfarfodydd |
Mae'r grŵp yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.
Caiff grwpiau gorchwyl a gorffen eu trefnu yn aml i ystyried materion penodol. Ar hyn o bryd, mae is-grwpiau yn gyfrifol am ystyried newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd hanesyddol a'r ddarpariaeth sgiliau yn y sector. |
Cynigir y bydd y panel yn cyfarfod yn ffurfiol o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
Ymdrinnir ag elfennau o'r gwaith y tu allan i gyfarfodydd. Mewn nifer o achosion, bydd grwpiau bach neu unigolion yn gweithio ar bynciau/cyngor penodol. |
Cadeirydd |
Yr unigolyn sy'n gyfrifol ar y pryd am yr amgylchedd hanesyddol neu un o uwch swyddogion Cadw sy'n cadeirio'r cyfarfodydd, sef un o Weinidogion Cymru. |
Caiff aelod o'r panel ei benodi yn gadeirydd. |